Dwylo Bach - Sir Dinbych - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae gweithdai Dwylo Bach yn sesiynau a arweinir gan artist sy’n cynnig ‘Gwahoddiad i Chwarae’ i fabis a phlant ifanc.
Yn hytrach na theganau traddodiadol mae gennym ni ‘ddarnau rhydd pen-agored’. Rydym ni’n dod ag eitemau fel tiwbiau cardfwrdd, basgedi, blychau pren, llinyn, bobinau, plu a chylchoedd hwla, yn ogystal â phaent a thoes. Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan y babi, heb unrhyw weithgareddau grŵp. Rydym ni’n defnyddio paent sy’n addas ar gyfer babis ac yn eich hannog chi a’ch babis i wisgo hen ddillad a dod â dillad sbâr rhag ofn!

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

i fabanod a phlant bach 0-5 oes (gyda chwmni).

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Croeso i bawb






Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Ti a Fi Tremeirchion
Yr Hen Ysgol
Tremeirchion, LL17 0BD
Dydd Gwener, 7 Chwefror, 9:00-11:00am

Ti a Fi Pentrecelyn
Ysgol Pentrecelyn
PENTRECELYN, LL15 2HG
Dydd Mercher, 12 Chwefror, 09:30-11:00am

Ti a Fi Corwen
Canolfan Ni, London Road, LL21 0DP
Dydd Mercher, 19 Chwefror,
09:30-11:00am

Ti a Fi Corwen
Canolfan Ni, London Road, LL21 0DP
Dydd Mercher, 19 Mawrth,
09:30-11:00am